![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 597 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Abertawe ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 1,471.74 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 51.5453°N 4.215°W ![]() |
Cod SYG | W04000591 ![]() |
Cod OS | SS465852 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rebecca Evans (Llafur) |
AS/au | Tonia Antoniazzi (Llafur) |
![]() | |
Pentref a chymuned ar Benrhyn Gŵyr ym mwrdeisdref sirol Abertawe, Cymru, yw Port Einon ( ynganiad ) (Saesneg: Port Eynon). Saif ar arfordir deheuol Gŵyr. Twristiaeth yw'r diwydiant pwysicaf yma bellach, ond ar un adeg roedd y diwydiant gwneud halen yn bwysig ac roedd hefyd chwarel galchfaen.
Sefydlwyd bad achub Port Einon yn ail hanner y 18g, a bu yno hyd 1919. Ar 1 Ionawr 1916, boddwyd tri pan aeth y bad achub i gynorthwyo criw yr SS Dunvegan a longddrylliwyd gerllaw. Mae cofeb iddynt yn y fynwent.
Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentref Scurlage. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 574.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rebecca Evans (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Tonia Antoniazzi (Llafur).[1][2]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search